Domestic Stitchcraft with Darren Ball | Ruthin Craft Centre
Arts
Craft
Domestic Stitchcraft with Darren Ball
21/06/25
10.00am - 4.00pm
£85 (includes materials, tea and coffee)
Age group
–
Adults
Location: Education Room
To inspire his work Darren references domestic making through use of his collection of 1940’s ‘Stitchcraft’ magazines.
Do you have enduring memories of your domestic life from the past or more recent domestic experiences that have made an impression on you? Think about this as broadly as possible - it could include family memories, your home, favourite meals, holidays or trips, pastimes or gardening etc.
In this class stitch these memories using applique and free machine embroidery to create your own artwork. Use your own fabrics which may link to your theme or use some from the Ruthin Craft Centre store cupboard.
Your background piece of fabric should be approximately 40cm x 30cm to allow a border around your embroidery. The actual embroidery should be approximately 20cm x 15cm.
Embroidery rings can be used to fit this size or you can work without one. You will use a medium weight background fabric which is strong enough to embroider into without support.
Find an image which relates broadly to the theme of your memories of domestic life. These could be personal photos, items of memorabilia or other research from books or the internet. Print out your image in black and white to approximately 20cm x 15cm to trace and simplify for your embroidery.
You will use bondaweb to applique the fabric. Darren layers net and lace in his work to create tone in his pieces, if you have any you would like to use, please bring it.
Please bring your own sewing machine. There will be some at the centre if this is not possible. Please let us know you need one on booking.
-----------------------------------------------------------------
Pwythwaith Domestig gyda Darren Ball
21/06/25
10.00am - 4.00pm
£85 (
yn cynnwys defnyddiau, te a coffi
)
Grŵp Oedran
-
Oedolyn
Lleoliad:
Ystafell Addysg
Fel ysbrydoliaeth i’w waith, mae Darren yn defnyddio ei gasgliad o gylchgronau ‘Stitchcraft’ o’r 1940au yn gyfeirnod i greu domestig.
Oes gennych chi atgofion parhaol o fywyd domestig y gorffennol neu brofiadau domestig mwy diweddar sydd wedi creu argraff arnoch chi? Ystyriwch hyn mor eang â phosibl – gall gynnwys atgofion teuluol, eich cartref, hoff brydau bwyd, gwyliau neu wibdeithiau, hamddena neu arddio ayyb.
Yn y dosbarth pwythwch y rhain drwy ddefnyddio appliqué neu frodio rhydd ar beiriant i greu eich gwaith celf. Defnyddiwch eich ffabrigau eich hun a fydd efallai‘n cysylltu â’ch thema neu defnyddiwch rai o gwpwrdd storio Canolfan Grefft Rhuthun.
Dylai eich darn cefndir o ffabrig fod oddeutu 40cm x 30cm er mwyn caniatáu gosod border o amgylch eich brodwaith. Dylai’r brodwaith ei hun fesur oddeutu 20cm x 15cm.
Gellir defnyddio cylchoedd brodio i ffitio’r maint hwn, neu gallwch weithio heb un. Byddwch yn defnyddio ffabrig cefndir o bwysau canolig sy’n ddigon cryf i’w frodio heb gefn.
Chwiliwch am ddelwedd sy’n lled berthnasol i thema eich atgofion o fywyd domestig. Gall y rhain fod yn ffotograffau personol, petheuach cofiadwy neu ymchwil arall o lyfrau neu’r rhyngrwyd. Printiwch eich delwedd mewn du a gwyn i faint oddeutu 20cm x 15cm i’w ddargopïo a’i symleiddio ar gyfer eich brodwaith.
Byddwch yn defnyddio Bondaweb i arosod y ffabrig. Mae Darren yn gosod haenau o rwyd a les yn ei waith er mwyn creu tôn yn ei ddarnau. Os oes gennych chi rai yr hoffech eu defnyddio, dewch â nhw os gwelwch yn dda.
Dewch â’ch peiriant gwnïo eich hun os gwelwch yn dda. Bydd rhai ar gael yn y ganolfan os nad yw hyn yn bosibl. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes angen un arnoch chi.
Information Source: Ruthin Craft Centre | eventbrite